Amcanion y gymdeithas yw i hyrwyddo astudiaeth o hanes ac achau teuluoedd yng Nghymru ac i gyd-drefnu a chynnal gweithgareddaur Cymdeithasau Hanes Teuluol.
Canolfan breswyl sy'n cynnwys darpariaeth addysgu Cymraeg a chyrsiau sy'n edrych ar ddiwylliant ac amgylchedd Cymru.
Eusen annibynnol sy'n cefnogi a hyrwyddo grwpiau gwirfoddol a chymunedol ac yn datblygu gweithgaredd gwirfoddol yng Ngwynedd.
Rhaglen grantiau i ariannu prosiectau sy'n cynnwys pobl yn eu cymuned leol, gan ddod â nhw at ei gilydd i gymryd rhan mewn, a mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau treftadaeth, elusennol, iechyd, addysg, amgylcheddol a chymunedol.
Mudiad dan arweiniad myfyrwyr yw Gweithredu Cymunedol Myfyrwyr sy'n rhedeg prosiectau gyda phlant, pobl hyn, anifeiliaid, gweithgareddau creadigol, pobl anabl, DIY, pobl ifanc, chwaraeon, yr amgylchedd, a llawer mwy o brosiectau cyffrous.
Swyddogaeth statudol Amgueddfa Cymru yw hyrwyddo'r gwaith o addysgu'r cyhoedd, drwy ddatblygu casgliadau'r amgueddfeydd yng Nghymru, gofalu amdanynt, ac annog pobl i ymweld â hwy.
Mudiad sydd yn hyrwyddo efengyl Iesu Grist trwy efengylu, cyhoeddiadau, gwersylloedd, cynadleddau a hyfforddi. Ar y safle ceir hanes gwaith y Mudiad a'i gredo.
Grwp pwyso sy'n ymgyrchu ar ran y lleiafrif sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru.
|